Ein sefydliad 1.1. 1.2. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Crëwyd y sefydliad ar 1 Ebrill 2011 i ddod â’r holl Lysoedd a Thribiwnlysoedd at ei gilydd fel un corff sengl, ac eithrio’r tribiwnlysoedd hynny sydd wedi eu datganoli. Enw ein sefydliad yn Gymraeg yw ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’. Rydym yn gyfrifol am gefnogi gweinyddu cyfiawnder yn y llysoedd a thribiwnlysoedd drwy Gymru a Lloegr. Byddwn yn darparu cymorth gweinyddol ar gyfer y Goruchaf Lys, y Llysoedd Sirol, y Llysoedd Ynadon a’r Tribiwnlysoedd. Mae’r Goruchaf Lys yn cynnwys y Llys Apêl, yr Uchel Lys (gan gynnwys y gwasanaeth profiant) a Llys y Goron. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yng Nghymru a Lloegr yn cael ei weinyddu ar ffurf saith ardal ddaearyddol a elwir yn rhanbarthau. Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM Cymru sy’n gwasanaethu Cymru. Yn fras, mae’r rhanbarthau’n gyfrifol am y swyddfeydd o fewn eu ffiniau er bod rhai eithriadau. Mae Grŵp y Goruchaf Lys yn cynnwys y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain a’r Gwasanaeth Profiant ym mhob cwr o Gymru a Lloegr