Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn sefydliad newydd a ddaeth i fodolaeth ym mis Ebrill 2011. Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein Cynllun Iaith Gymraeg newydd sy’n adeiladu ar seiliau cynlluniau iaith GLlEM (Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi) a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd. foreword by Peter Handcock, Chief Executive of HM Courts & Tribunals Service HM Courts & Tribunals Service is a new organisation that came into being in April 2011. I am pleased to present our new Welsh Language Scheme which builds upon the foundations of the language schemes of both HMCS (Her Majesty’s Courts Service) and the Tribunals Service. Rydym yn cymryd ein hymrwymiadau dan y Cynllun hwn o ddifrif a byddwn yn ceisio’n barhaus i ganfod ffyrdd o wella’r gwasanaethau dwyieithog yr ydym yn eu cynnig, a chydweithio â’n hasiantaethau partner yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder, i adlewyrchu’r newidiadau sy’n digwydd yng Nghymru a’r effaith a gaiff hynny ar ddisgwyliadau siaradwyr Cymraeg. We take our commitments under this Scheme seriously and will continuously seek ways of improving the bilingual services we offer and to work in collaboration with our partner agencies in the Ministry of Justice, in order to reflect the changes that are taking place in Wales and the impact that has on the expectations of Welsh speakers. Peter Handcock Prif Weithredwr / Chief Executive Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM / HM Courts & Tribunals Service