Yn ystod y pum mlynedd nesaf bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn anelu at wella’i allu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog drwy: •Weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid cyfiawnder eraill i sicrhau bod dewis iaith yn cael ei gofnodi’n briodol ar bob cam yn y broses llys a’r tribiwnlys •Codi ymwybyddiaeth defnyddwyr llys a’r tribiwnlys o’u hawl i ddefnyddio’r Gymraeg •Byddwn yn llunio Strategaeth newydd ar yr Iaith Gymraeg a fydd yn ategu’r Cynllun o ran dangos sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun hwn •Annog a chefnogi staff sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u gwaith •Petaem yn darparu gwasanaethau swyddfa gefn ar sail Cymru a Lloegr a fyddai yn flaenorol wedi cael eu darparu yng Nghymru, amcanwn i ddarparu’r gwasanaethau hynny’n ddwyieithog ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru •Sefydlu canolfan gyswllt galwadau Gymraeg yn ein Huned Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon •Penodi tiwtor neu hyfforddwr Cymraeg mewnol i wella ein gallu ieithyddol •Gwella darpariaeth o wasanaethau TG dwyieithog •Cynyddu nifer o’r staff sy’n gallu siarad